Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mawrth 2021
Amser:
09.30 -
10.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11218
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B.
2.1 pN(5)41 – Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai’r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(5)776 - Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(5)781 - Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.3 SL(5)784 – Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.4 SL(5)785 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
4.1 SL(5)777 – Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.2 SL(5)780 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(5)782 – Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau ac Atebolrwyddau) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.4 SL(5)786 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.5 SL(5)787 - Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.6 SL(5)791 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.7 SL(5)793 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.8 SL(5)789 – Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.9 SL(5)775 - Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.10SL(5)798 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.11SL(5)778 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.12SL(5)790 – Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.13SL(5)792 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.14SL(5)795 - Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.15SL(5)796 – Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol.
5.1 SL(5)758 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5.2 SL(5)767 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
6 Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7
6.1 SL(5)799 – Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno.
6.2 SL(5)788 - Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (Diwrnod Penodedig) 2021
Trafododd y Pwyllgor y Gorchymyn ac roedd yn fodlon arno.
6.3 SL(5)794 - Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021
Trafododd y Pwyllgor y Gorchymyn ac roedd yn fodlon arno.
7 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
7.1 WS-30C(5)218 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygio ac ati) 2021
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwebaeth.
7.2 WS-30C(5)219 - Rheoliadau Cynhyrchion Amaethyddol, Bwyd a Diod (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwebaeth.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Llythyrau gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Eithriadau o Reolaethau Swyddogol mewn Safleoedd Rheoli Ffiniau (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyrau gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
8.2 Gohebiaeth â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol : Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i’w lythyr ar Reolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021.
8.3 Llythyr gan y Llywydd: Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 – Effaith ar Gomisiwn y Senedd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.
8.4 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr (Paneli Peirianwyr Sifil) (Ceisiadau a Ffioedd) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
8.5 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol: Gwella hygyrchedd cyfraith Cymru
Nododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol.
8.6 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cyfarfod rhwng Gweinidogion y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar y sector gwaith cynhwysiant digidol
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a’i fod wedi’i anfon yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
8.7 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cyfarfod rhwng Gweinidogion y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar Dai a Chynllunio Gofodol
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a’i fod wedi’i anfon yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
8.8 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Datganiad Ysgrifenedig ar Reol Sefydlog 30C - Rheoliadau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Cofrestrfa Protocol Kyoto) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i’w lythyr mewn perthynas â datganiad Rheol Sefydlog 30C ar Reoliadau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Cofrestrfa Protocol Kyoto) 2021.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd arno.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) - trafod llythyr drafft at y Gweinidog.
Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) a chytunodd i arno.
12 Offerynnau Statudol a osodwyd ond na chraffodd y Pwyllgor arnynt yn ffurfiol.
Ystyriodd y Pwyllgor y dull o drin offerynnau statudol a osodwyd ond na chraffodd y Pwyllgor arnynt yn ffurfiol ar ddiwedd y Bumed Senedd. Cytunodd y Pwyllgor y byddai adroddiad arbennig ar rinweddau yn cael ei osod ar 28 Ebrill 2021, a fydd yn nodi’r offerynnau statudol a osodir rhwng 18 Mawrth a 28 Ebrill nad yw’r Pwyllgor wedi cael cyfle i graffu arnynt.
13 Gwaith gwaddol - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad gwaddol, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.
14 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.